Tyrcwns a Chracyrs 2011



Wrth ’sgwennu’r hyn o lith i gyfeiliant Hei! Pawb Nadolig Llawen am y pumed tro ar y radio heddiw, dwi’n gweddïo y bydd genod Pheena yn ymuno â streic dridiau’r cerddorion Cymraeg wythnos nesaf. Ac mae’r meddwl yn naturiol droi’n ôl at ddigwyddiadau’r flwyddyn a fu, gan gynnwys y da a’r drwg ym myd radio a theledu. Ond yn wahanol i gystadleuaeth personoliaeth chwaraeon y flwyddyn BBC Prydain, mae yna le i ferched yng nghlodrestr y golofn hon. Felly, pa raglenni Cymraeg barodd i mi orfoleddu fel cais olaf Shane yn Stadiwm y Mileniwm neu ddiawlio fel cerdyn coch Sam yn Seland Newydd?

Y TYRCWNS


5 Sori, Siwan Ymddiheuriadau i’r awdures Siwan Jones. Er bod llawer wedi mwynhau Alys, cyfres ddrama dywyll am fam sengl a’i chydbreswylwyr brith mewn bloc o fflatiau rhywle yn y gorllewin, nid felly fa’ma. Fi ’di’r bai, yn disgwyl Con Passionate neu Tair Chwaer arall. Gormod o olygfeydd duach na du, llygod mawr a baw cŵn, ar gyfer nos Sul yn tŷ ni.

4 Boddi yn ymyl y lan Mae yna wastad rhyw gyffro ynghylch cyfres ddrama deledu newydd, yn enwedig pan fo rhai Cymraeg mor brin â ffrindiau Cameron yn Ewrop. Er gwaetha’r holl edrych ymlaen at olygfeydd godidog a’r ymdriniaeth o fywyd gwledig cyfoes Llŷn, collais bob diddordeb yng nghastiau pobl Porthpenwaig erbyn y diwedd. Roedd y plot yn tindroi ac wedi’i ganoli ar un o’r cariadon ifanc mwyaf diflas yn hanes teledu, a llawer o’r gwylwyr wedi rhagweld cyfrinach y Ficer a’r Athro yn y bennod gyntaf.

3 Dewch yn ôl, Brodyr Bach! Sioe adloniant nos Sadwrn gyda Rhodri Ogwen, Mari Løvgreen a chynulleidfa ddryslyd wedi’u sodro ar gefn motobeics a cheir Saab-heb-do. Gyda chlipiau camerâu cudd diddim, ac aelod ‘lwcus’ o’r dorf yn ateb cwestiynau er mwyn ennill cyfanswm y dderbynneb siop yn ei boced - £1.24c o Spar efallai? - Ar Gamera oedd un o’r sioeau odiaf a welais erioed. Roedd wyneb Ms Løvgreen yn bictiwr o “be ddiawl dwi’n dda yma?”

2 Wylit, wylit… Hywel Teifi ’Sgwn i beth fyddai ymateb y cawr o Langennech o weld ei fab yn arwain marathon BBC Prydain ym mhriodas Cêt a Wil? Roedd S4C hefyd wedi meddwi ar yr achlysur ddiwedd Ebrill, gyda Rhun Ap a gohebwyr newyddion S4C yn chwifio Jac yr Undeb ar ran ni Gymry Cymraeg lwcus.

1 .Cach Mae gwledydd eraill yn cael diwrnod o wyliau a chlamp o orymdaith fawr gyhoeddus i ddathlu eu diwrnodau cenedlaethol. Yma yng Nghymru, fe gawsom ni gêm banel .cym gyda brenhines ddrag a Glyn Wise. Roedd mor erchyll nes i mi ofni canlyniad Refferendwm y Cynulliad ychydig ddyddiau wedyn. Diolch i’r drefn mai’r garfan “Ie” enillodd y dydd, a bod S4C wedi dweud “na” pendant i gyfres lawn o hon.

Y CRACYRS


5 Ffion Llywelyn.
Anghofiwch am straeon ciami fel Lois yn esgor dros bizza, a golygfeydd o Garry Monk a’r blismones mewn gynau nos cyfatebol. Roedd perfformiad caboledig Bethan Ellis Owen o’r athrawes alcoholig yn Pobol y Cwm yn ddoniol a dirdynnol yr un pryd, wrth iddi faglu o’r naill begwn i’r llall dan ddylanwad y botel. Pe bai’r gyfres Gymraeg yn mynd benben â’r ‘mawrion’ Saesneg yn seremoni wobrwyo’r operâu sebon, dyma enillydd y categori ‘actores orau’ heb os.

4. Teyrngedau tawel Isafbwynt ddylai marwolaeth fod wrth gwrs, ond roedd teyrngedau tawel criw Sgorio i golli Garry Speed yn ddiweddar yn hynod gofiadwy, gyda’i gydchwaraewyr clwb a chenedlaethol Malcolm Allen a John Hartson yn siarad yn ddewr o’r galon ychydig ddyddiau wedi’r golled drist.

3. Cymru a’r byd Rhwng Steffan Rhodri yn olrhain hanes allforion O Gymru Fach i bedwar ban, a sêr fel Cerys Matthews yn crwydro Ciwba, Beti George yng Nghyprus a Gerallt Pennant yn ynysoedd y Galapagos yn Yr Ynys, cawsom gyfresi dogfen rhagorol yn edrych ar y byd trwy lygaid y Cymry gyda gwaith camera godidog. Mae’n hollbwysig edrych y tu hwnt i ffiniau a chyfyngiadau’r wlad fach gymhleth hon weithiau. Gobeithio na fydd toriadau S4C yn arwain at lai o deithio yn y dyfodol.

2. Rose Edwards Seren 85 oed o Frynsiencyn, Môn, a fu’n hel atgofion am galedi’r oes a fu, ochr yn ochr â Facebook, bîtbocsio a chwarae’r X Box yng nghyfres sgetshis swreal Dim Byd. Clasur deng munud, gyda bar gwybodaeth ar waelod y sgrin yn rhestru llu o deitlau raglenni dychmygol fel sianel reslo ‘Waldio Williams’, sianel siopa ‘Rhad ’tha Baw’ ac ‘Uned Pimp’ a ‘Sali Marley’ a brofai bod gwreiddioldeb a chreadigrwydd yn perthyn i’r byd darlledu Cymraeg o hyd.

1. Deg allan o ddeg Efallai mai pensiynau neu system fandio Leighton Andrews AC ydi pwnc trafod ystafelloedd athrawon go iawn y dyddiau hyn. Ond ym myd difyrrach Gwaith/Cartref, maen nhw’n dioddef penmaen-mawr, yn lapswchan partneriaid ei gilydd neu’n cysgu efo’r ysgrifenyddes. Pa ryfedd bod athrawon go iawn braidd yn sensitif o bortread Roger Williams a Fiction Factory ohonynt? Ond gyda chymeriadau credadwy a chofiadwy fel y pennaeth Rhydian Ellis (Rhodri Evan) sydd ar binnau’n barhaus, Mrs Lloyd (Rhian Morgan) yn cael ail-wynt wedi chwalfa nerfol, torcalon Beca Matthews (Hannah Daniel) ar ôl cael ei threisio a Wyn Rowlands (Richard Elis) sy’n taflu llwch i lygaid pawb – roedd yna fwy na digon i’n denu’n ôl i Ysgol Gyfun Bro Taf y gwanwyn nesaf.